Proverbs 26

1Fel eira yn yr haf a glaw adeg cynhaeaf,
dydy anrhydedd ddim yn siwtio ffŵl.
2Fel aderyn y to yn gwibio heibio, neu wennol yn hedfan,
dydy melltith heb ei haeddu ddim yn gorffwys.
3Chwip i geffyl a ffrwyn i asyn,
a gwialen i gefn ffyliaid.
4Paid ateb ffŵl fel mae e'n siarad,
neu byddi di'n debyg iddo;
5ateb ffŵl fel mae e'n siarad,
a bydd e'n meddwl ei fod e'n glyfar.
6Mae anfon neges drwy law ffŵl
fel rhywun yn mwynhau gwneud niwed iddo'i hun.
7Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl
fel coesau rhywun cloff yn hongian yn llipa.
8Mae rhoi anrhydedd i ffŵl
mor wyrion â rhwymo carreg mewn ffon dafl.
9Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl,
fel llwyn o fieri yn llaw meddwyn.
10Mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwyn
fel bwasaethwr yn anafu pawb sy'n mynd heibio.
11Mae ffŵl sy'n ailadrodd beth wnaeth e,
fel ci yn mynd yn ôl at ei chwŷd.
12Mae mwy o obaith i ffŵl
nag i rywun sy'n meddwl ei fod yn gwybod popeth.
13Mae'r diogyn yn dweud, “Mae na lew ar y ffordd!
Mae e'n rhydd yn y stryd!”
14Mae diogyn yn troi ar ei wely
fel drws yn siglo'n ôl a blaen ar ei golfachau!
15Mae'r diogyn yn estyn ei law am fwyd,
ond yn blino gorfod ei godi i'w geg.
16Mae'r diogyn yn meddwl ei fod e'n gallach
na saith o bobl sy'n rhoi cyngor da.
17Mae busnesa yn ffrae rhywun arall
fel gafael mewn ci peryglus wrth ei glustiau.
18Mae twyllo rhywun arall ac wedyn dweud, “Dim ond jôc oedd e,”
fel dyn gwallgo yn taflu ffaglau tân a saethau marwol i bob cyfeiriad.
20Mae tân yn diffodd os nad oes coed i'w llosgi,
ac mae ffrae yn tawelu os nad oes rhywun yn hel clecs.
21Ond mae rhywun sy'n dechrau ffrae
fel rhoi glo ar farwor neu goed ar y tân.
22Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus –
mae'r cwbl yn cael ei lyncu.
23Mae tafod sy'n rhy barod a bwriad sy'n ddrwg
fel farnis clir ar botyn pridd.
24Mae gelyn yn smalio,
ond ei fwriad ydy twyllo;
25paid â'i gredu pan mae'n dweud pethau caredig,
achos mae pob math o bethau ffiaidd ar ei feddwl.
26Mae'n cuddio ei gasineb trwy dwyll,
ond bydd ei ddrygioni yn dod yn amlwg i bawb.
27Mae rhywun yn gallu cloddio twll a syrthio i'w drap ei hun;
pan mae rhywun yn rholio carreg, gall rolio yn ôl drosto!
28Mae tafod celwyddog yn casáu y rhai mae'n eu brifo;
ac mae seboni yn arwain i ddinistr.
Copyright information for CYM